Mae adroddiadau’r Pwyllgor i’r Cynulliad fel a ganlyn:
Offerynnau nad ydynt yn arwain at faterion i’w codi o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
Offerynnau’r penderfyniad negyddol
CLA41 - Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) (Diwygio) 2011
Gweithdrefn: Negyddol
Fe’u gwnaed:20 Medi 2011
Fe’u gosodwyd:22 Medi 2011
Yn dod i rym ar:14 Hydref 2011
Offerynnau’r penderfyniad cadarnhaol
CLA42 - Rheoliadau Amddiffyn rhag Tybaco (Gwerthiannau o Beiriannau Gwerthu) (Cymru) 2011
Gweithdrefn: Cadarnhaol
Fe’u gwnaed:heb ei nodi
Fe’u gosodwyd:heb ei nodi
Yn dod i rym ar:1 Chwefror 2012
Penderfynodd y Pwyllgor ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau i ofyn pam fod dyddiadau dod i rym gwahanol yng Nghymru a Lloegr.
Offerynnau sy’n arwain at faterion i’w codi o dan Reol Sefydlog
21.2 neu 21.3
Offerynnau’r penderfyniad negyddol
CLA38 - Rheoliadau Rhywogaethau Estron a Rhywogaethau sy’n Absennol yn Lleol mewn Dyframaethu (Cymru a Lloegr) 2011 (Saesneg yn unig)
Gweithdrefn: Negyddol
Fe’u gwnaed:12 Medi 2011
Fe’u gosodwyd gerbron Senedd y DU:16 Medi 2011
Fe’u gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 16 Medi 2011
Yn dod i rym ar:10 Hydref 2011
Penderfynodd y Pwyllgor ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd i ddiolch iddo am gytuno i wneud y canlynol yn y dyfodol:
Cytunodd y Pwyllgor hefyd i gadarnhau’r canlynol gyda’r Dirprwy Weinidog:
Offerynnau’r penderfyniad cadarnhaol
CLA39 - Rheoliadau Iechyd Meddwl (Eiriolwyr Iechyd Meddwl Annibynnol) (Cymru) 2011
Gweithdrefn: Cadarnhaol
Fe’u gwnaed:2011
Fe’u gosodwyd:heb ei nodi
Yn dod i rym ar:yn unol â rheoliad 1(2)
CLA40 - Rheoliadau Iechyd Meddwl (Asesu Defnyddwyr Blaenorol o Wasanaethau Iechyd Meddwl Eilaidd) (Cymru) 2011
Gweithdrefn: Cadarnhaol
Fe’u gwnaed:2011
Fe’u gosodwyd:heb ei nodi
Yn dod i rym ar: 6 Mehefin 2012
Cytunodd y Pwyllgor ar y pwyntiau adrodd ar yr offerynnau statudol a ganlyn o dan Reolau Sefydlog 21.2 a 21.3. Ceir copi ohonynt yn Atodiadau 1 i 3.
Busnes arall
Ymchwiliadau'r Pwyllgor: Ymchwiliad i roi pwerau i Weinidogion Cymru yn Neddfau’r DU
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth lafar gan David Lambert, Cymrawd Ymchwil; Marie Navarro, Cydymaith Ymchwil; a Manon George, Cynorthwyydd Ymchwil, o Ganolfan Llywodraethiant Cymru.
Penderfyniad i gwrdd yn breifat
Yn unol â Rheol Sefydlog 17.42(vi), penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod i drafod y dystiolaeth a gyflwynwyd hyd yma i’r ymchwiliad i roi pwerau i Weinidogion Cymru yn Neddfau’r DU.
David Melding AC
Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
3 Hydref 2011
Atodiad 1
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
CLA38
Teitl: Rheoliadau Rhywogaethau Estron a Rhywogaethau sy’n Absennol yn Lleol mewn Dyframaethu (Cymru a Lloegr) 2011 (Saesneg yn unig)
Gweithdrefn: Negyddol
Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi rhoi ar waith Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 708/2007, ynghylch defnyddio rhywogaethau estron a rhywogaethau o du allan i’r ardal mewn dyframaethu.
Materion technegol: craffu
O dan Reol Sefydlog 21.2 bydd y Cynulliad yn cael ei wahodd i roi sylw arbennig i'r offeryn a ganlyn:
Cafodd y Rheoliadau hyn eu cynhyrchu yn Saesneg yn unig. Yn ogystal, ni chafwyd unrhyw esboniad dros y rheswm pan na chafodd y Rheoliadau hyn eu cynhyrchu’n ddwyieithog. Ymddengys mai’r rheswm dros hyn yw oherwydd mai Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig a baratodd y memorandwm esboniadol ac fe gaiff ei osod gerbron y Senedd ar Orchymyn Ei Mawrhydi. Gan hynny, ni chafwyd unrhyw ymgais i roi sylw i weithdrefnau ac arferion y Cynulliad yn y Memorandwm.
(Rheol Sefydlog 21.2 (ix) nad yw wedi’i wneud neu i’w wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg).
Rhinweddau: craffu
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i fod yn destun adroddiad o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
David Melding AC
Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
3 Hydref 2011
Mae’r Llywodraeth wedi ymateb fel a ganlyn:
Rheoliadau Rhywogaethau Estron a Rhywogaethau sy’n Absennol yn Lleol mewn Dyframaethu (Cymru a Lloegr) 2011 (Saesneg yn unig)
Mae Rheoliadau Rhywogaethau Estron a Rhywogaethau sy’n Absennol yn Lleol mewn Dyframaethu (Cymru a Lloegr) 2011 yn Rheoliadau cyfansawdd a fydd yn gymwys i Gymru a Lloegr, byddant yn ddarostyngedig i’r weithdrefn penderfyniad negyddol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ac yn Senedd y Deyrnas Unedig fel ei gilydd. Yn unol â hynny, nid ystyrir ei bod yn rhesymol ymarferol i’r offeryn hwn gael ei wneud yn ddwyieithog na’i osod felly. Yn y dyfodol, mae’n ddymuniad gennym bod cyfieithiad cwrteisi i’r Gymraeg o offerynnau cyfansawdd fel hyn yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru, ar ôl i’r offeryn priodol gael ei wneud, gan gydbwyso’r dymuniad hwnnw gyda’r defnydd mwyaf effeithlon o adnoddau er mwyn cyflawni amcanion polisi Llywodraeth Cymru.
Mae’r Memorandwm Esboniadol sydd wedi ei osod mewn cysylltiad â’r Rheoliadau hyn yn y fformad a fabwysiadwyd cyn y newidiadau diweddar i Reolau Sefydlog sy’n galluogi’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ystyried eitemau sydd hefyd yn ddarostyngedig i weithdrefnau Senedd y Deyrnas Unedig. O dan y Rheolau Sefydlog blaenorol, byddai Gweinidogion Cymru’n gosod Memorandwm Esboniadol o’r fath o’u gwirfodd i gynorthwyo’r aelodau wrth ystyried yr is–ddeddfwriaeth dan sylw. Yr ydym yn derbyn nad yw’r fformad hwn yn briodol bellach a sicrhawn fod staff yn ymwybodol o a) naill ai bod rhan Llywodraeth Cymru yn y gwaith o gynhyrchu’r Memorandwm Esboniadol yn cael ei gwneud yn eglur neu fod Memorandwm Esboniadol ar wahân yn cael ei gynhyrchu o ran Cymru i offerynnau cyfansawdd fel hyn; a b) yn y dyfodol dylai Memoranda Esboniadol gael eu cyfeirio at y Pwyllgor Cynulliad Perthnasol.
Atodiad 2
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
CLA39
Teitl: Rheoliadau Iechyd Meddwl (Eiriolwyr Iechyd Meddwl Annibynnol) (Cymru) 2011
Gweithdrefn: Cadarnhaol
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch y trefniadau ar gyfer penodi Eiriolwyr Iechyd Meddwl Annibynnol (“EIMAau”) gan gynnwys darpariaeth ynghylch pwy a all gael ei benodi’n EIMA a pha bersonau y caniateir i EIMA ymweld a chyfweld â nhw er mwyn rhoi cymorth i glaf cymwys Cymreig dan orfodaeth neu i glaf anffurfiol cymwys Cymreig.
Materion technegol: craffu
O dan Reol Sefydlog 21.2, ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno
adroddiad arnynt mewn cysylltiad â’r offeryn drafft hwn:
Rhinweddau: craffu
O dan Reol Sefydlog 21.3 (ii) (materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad) gwahoddir y Cynulliad i roi sylw arbennig i’r offeryn a ganlyn.
Mae’r Rheoliadau hyn yn rhan o gyfres o reoliadau sy’n cael eu gwneud gan Weinidogion Cymru o dan bwerau sydd wedi’u rhoi iddynt gan ddarpariaethau ym Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 (“y Mesur”) neu o dan ddarpariaethau Deddf Iechyd Meddwl 1983 (“y Ddeddf”) fel y’i diwygiwyd gan y Mesur ac sydd wedi’u bwriadu i ddatblygu a gwella gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn disodli ac yn dirymu Rheoliadau Iechyd Meddwl (Eiriolwyr Annibynnol Iechyd Meddwl) (Cymru) 2008 ac maent yn cael eu gwneud o dan Ddeddf 1983 yn sgil diwygio’r Ddeddf honno gan Fesur 2010.
Mae’r diwygiadau i’r Ddeddf yn darparu ar gyfer cynllun statudol estynedig o eiriolaeth iechyd meddwl i Gymru yn unig, a hwnnw ar gyfer cleifion sydd o dan orfodaeth o dan y Ddeddf a’r rhai sydd mewn ysbyty neu sefydliad cofrestredig ar sail anffurfiol (hynny yw heb orfodaeth).
O dan y weithdrefn gadarnhaol y mae’r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud ac felly fe gân nhw eu trafod gan y Cynulliad mewn Cyfarfod Llawn.
David Melding AC
Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
3 Hydref 2011
Atodiad 3
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
CLA40
Teitl: Rheoliadau Iechyd Meddwl (Asesu Defnyddwyr Blaenorol o Wasanaethau Iechyd Meddwl Eilaidd) (Cymru) 2011
Gweithdrefn: Cadarnhaol
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch asesiadau iechyd meddwl i ddefnyddwyr blaenorol gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd.
Materion technegol: craffu
O dan Reol Sefydlog 21.2, ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno
adroddiad arnynt mewn cysylltiad â’r offeryn drafft hwn.
Rhinweddau: craffu
O dan Reol Sefydlog 21.3 (ii) (materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad) gwahoddir y Cynulliad i roi sylw arbennig i’r offeryn a ganlyn.
Mae’r Rheoliadau hyn yn rhan o gyfres o reoliadau sy’n cael eu gwneud gan Weinidogion Cymru o dan bwerau sydd wedi’u rhoi iddynt gan ddarpariaethau ym Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 (“y Mesur”) neu o dan ddarpariaethau Deddf Iechyd Meddwl 1983 fel y’i diwygiwyd gan y Mesur ac sydd wedi’u bwriadu i ddatblygu a gwella gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru.
O dan Ran 3 o’r Mesur, mae cleifion sydd wedi’u rhyddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd ond sydd wedyn yn credu bod eu hiechyd meddwl yn dirywio nes cyrraedd pwynt lle mae angen ymyrraeth arbenigol eto yn cael cyfeirio’u hunain o fewn cyfnod o dair blynedd ar ôl cael eu rhyddhau (“y cyfnod rhyddhau”) yn ôl at y gwasanaethau eilaidd.
Y rhai sy’n gymwys yw personau dros 18 oed sydd wedi cael gwasanaethau eilaidd o’r blaen. Er hynny, bydd unigolion sydd wedi cael gwasanaethau eilaidd ac sydd wedi’u rhyddhau ohonyn nhw tra oedden nhw o dan 18 oed hefyd yn gymwys os ydyn nhw’n cyrraedd eu 18 oed yn ystod y cyfnod rhyddhau.
Mae’r darpariaethau yn rhan 3 o’r Mesur yn cyflwyno cyfundrefn sy’n unigryw i Gymru.
O dan y weithdrefn gadarnhaol y mae’r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud ac felly fe gân nhw eu trafod gan y Cynulliad mewn Cyfarfod Llawn.
David Melding AC
Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
3 Hydref 2011